Ysgol Caer Elen

Daw derwen o fesen fach

Croeso

Braint ac anrhydedd yw eich croesawu chi i wefan Ysgol Caer Elen. Mae agor Ysgol Caer Elen yn ddathliad o lwyddiant addysg cyfrwng Cymraeg yn y sir. Ein nod yw i ddatblygu ysgol arloesol 3-16 a fydd yn darparu addysg cyfrwng Cymraeg o’r radd flaenaf mewn partneriaeth â’n hysgolion clwstwr ac Ysgol y Preseli.

Credwn mewn paratoi disgyblion trwy ddatblygu eu sgiliau a’u gwerthoedd ar gyfer bywyd tu hwnt i’r ystafell ddosbarth ac i wynebu sialensiau’r unfed ganrif ar hugain.

Disgwyliwn y safon orau posibl gan ein disgyblion ac fe wnawn ein gorau i roi pob cyfle ac arweiniad iddynt hwy. Bydd cyfoeth ac ehangder y gweithgareddau allgyrsiol yn nodwedd bwysig o fywyd a diwylliant yr ysgol o’r cychwyn. Anelwn at sicrhau llwyddiannau academaidd, diwylliannol a chwaraeon gan anelu bod pob disgybl beth bynnag o’i ddawn a’i ddiddordeb.  

Un o gryfderau ein hysgol yw ei hethos Gymraeg, ei chymuned ofalgar, agored a hapus lle mae'r disgyblion yn teimlo’n gartrefol ac yn mwynhau eu haddysg. Anelwn at wneud dysgu yn brofiad cyffrous a phleserus a hynny yn bennaf trwy ddefnyddio dulliau dysgu diddorol a gweithredol yn ein gwersi.

Mae pob disgybl yn bwysig fel unigolyn, a phob unigolyn yn bwysig fel aelod o ‘deulu’ Ysgol Caer Elen. Yr egwyddor hon o barchu’r unigolyn a gosod anghenion yr unigolyn yn y canol fydd wrth wraidd ethos, gwerthoedd a llwyddiant ein hysgol newydd.

Mae ein disgyblion yn falch o’u hysgol, yn falch o’u Cymreictod a’u dwyieithrwydd ac yn medru cyfrannu yn gadarnhaol at gymdeithas aml-ieithog ac aml-ddiwylliant Cymru, Ewrop a’u Byd.

Mr Dafydd Hughes

Pennaeth