Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
Mae Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu yn ymwneud ag agweddau hanfodol cyfathrebu rhwng pobl. Ei nod yw cefnogi dysgu ar draws yr holl gwricwlwm a galluogi dysgwyr i ennill gwybodaeth a sgiliau yn Gymraeg, Saesneg, ac ieithoedd rhyngwladol yn ogystal â llenyddiaeth.
Dylid ystyried yn holistaidd y pedwar datganiad sy’n nodi’r hyn sy’n bwysig yn y Maes hwn. Golyga hyn y dylid archwilio gwahanol ieithoedd mewn perthynas â’i gilydd, yn ogystal â sgiliau gwrando, siarad, darllen ac ysgrifennu. Golyga hyn hefyd y dylid ystyried dysgu am a thrwy lenyddiaeth fel rhywbeth sy’n cyfrannu at holl agweddau dysgu am ieithoedd. Mae’r datganiadau yn cefnogi a chadarnhau’i gilydd. Gyda’i gilydd maen nhw’n cyfrannu at wireddu pedwar diben y cwricwlwm.
Mae dysgu a phrofiad yn y Maes hwn yn anelu at alluogi dysgwyr i gyfathrebu’n effeithiol gan ddefnyddio Cymraeg, Saesneg ac ieithoedd rhyngwladol. Mae’n anelu at annog dysgwyr i drosglwyddo’r hyn maen nhw wedi’i ddysgu am sut mae ieithoedd yn gweithio mewn un iaith er mwyn dysgu a defnyddio ieithoedd eraill. Bwriedir i’r dull amlieithog a lluosieithog hwn danio chwilfrydedd a brwdfrydedd y dysgwyr a chynnig sylfaen gadarn iddyn nhw ddatblygu diddordeb gydol oes yn ieithoedd Cymru ac ieithoedd y byd, a thrwy hyn eu gwneud yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog, sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes.