Ysgol Caer Elen

Daw derwen o fesen fach

Senedd Caer Elen

Mae aelodau’r Senedd yn cynnwys Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion y chwe phwyllgor ysgol. Maent yn gweithredu fel llais i weddill disgyblion yr ysgol wrth drafod materion ysgol gyfan. Mewn cyfarfod diweddar o’r Senedd, trafodwyd nifer o faterion pwysig megis blaenoriaethau’r ysgol a Siarter Llais y Disgybl. Yn ogystal, ymwelwyd â gwefan Comisiynydd Plant Cymru er mwyn gwylio a thrafod clip fideo ar hawliau plant yng Nghymru.

Yn dilyn trafodaethau diweddar gyda Senedd yr ysgol ynglÅ·n â dyluniad logo’r Senedd, gweler isod y dyluniad terfynol. Diolch i Mr. L Barrow am fod yn gyfrifol am y gwaith dylunio a diolch hefyd i aelodau’r Senedd am gyfrannu eu syniadau hollbwysig.

 

Gwefan Senedd Cymru: 

Senedd Cymru yw’r corff sy’n cael ei ethol yn ddemocrataidd i gynrychioli buddiannau Cymru a’i phobl.

Mae’r Senedd, fel y’i gelwir, yn deddfu ar gyfer Cymru, yn cytuno ar drethi yng Nghymru, ac yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.