Disgwyliadau Presenoldeb
Ystyrir presenoldeb rheolaidd yn bwysig iawn yn Ysgol Caer Elen. Os nad yw disgybl yn bresennol yn yr ysgol, ni all ddysgu na chyrraedd ei wir botensial. Am y rhesymau hyn, rydym yn annog rhieni/gwarchodwyr i beidio â threfnu gwyliau yn ystod tymor yr ysgol.
Ein nod yw cael y graddau presenoldeb uchaf posib ar gyfer ein disgyblion. Ceir rhesymau dilys a chyfiawn ar adegau wrth gwrs pan na all disgybl fynychu’r ysgol, ond mae gennym systemau yn eu lle i fonitro ac ymchwilio i absenoldebau ar draws yr ysgol. Mae ein polisi presenoldeb yn amlinellu ein hymarfer a’n trefniadau er mwyn cynnal lefel uchel o bresenoldeb. Os yw eich plentyn yn absennol, cysylltwch â Llinell Absenoldeb yr ysgol.
Disgwyliwn i rieni/gwarchodwyr:
- annog eu plant i fynychu’r ysgol yn rheolaidd
- sicrhau eu bod yn cysylltu â’r ysgol pan fo’u plentyn yn/wedi methu mynychu’r ysgol
- sicrhau bod eu plentyn yn cyrraedd yr ysgol ar amser ac wedi paratoi’n addas ar gyfer y dydd
- cysylltu â’r ysgol pan fydd unrhyw broblem a allai gadw eu plentyn o’r ysgol.
Disgwyliwn y canlynol gan ein disgyblion:
- y byddant yn mynychu’r ysgol yn rheolaidd
- y byddant yn cyrraedd ar amser ac wedi paratoi yn addas ar gyfer y dydd
- y byddant yn hysbysu aelod o’r staff o unrhyw broblem a all eu rhwystro rhag mynychu’r ysgol.