Ysgol Caer Elen

Daw derwen o fesen fach

Cwricwlwm CC5 - TGAU

Mae'r camau tuag at astudio TGAU yng ngyrfa ysgol ein disgyblion yn sicr yn rhai pwysig a chyffrous. Wrth i ddisgyblion Blwyddyn 9 ddod i ddiwedd Cam Cynnydd 4 a chychwyn ar eu hastudiaethau TGAU, byddwn yn sicrhau ein bod yn cynnig yr arweiniad gorau a fydd yn eu helpu i wneud y  penderfyniadau sydd yn bwysig ac yn berthnasol i’w dyfodol.  

Yn ystod Blwyddyn 10 a Blwyddyn 11 bydd y disgyblion yn astudio’r pynciau craidd sef Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth. Y pynciau gorfodol eraill yw Crefydd Gwerthoedd a Moeseg, Bagloriaeth Cymru, ABCh ac Ymarfer Corff. 

Bydd cyfle gyda nhw hefyd i ddewis tri phwnc sef un o’r tri Bloc Opsiwn a bydd angen sicrhau eu bod yn dewis yn ddoeth gan ystyried pa bynciau sydd yn berthnasol i’w dewis o yrfa.