Ysgol Caer Elen

Daw derwen o fesen fach

Absenoldeb yn ystod y tymor

CAIS RHIANT AM ABSENOLDEB AWDURDODEDIG / HYSBYSU YNGHYLCH ABSENOLDEB YN YSTOD Y TYMOR 

Cyn gwneud cais am absenoldeb yn ystod y tymor, ystyriwch y canlynol:

Mae presenoldeb isel parhaus yn ffactor sy’n aml yn gysylltiedig â lefelau isel o lwyddiant academaidd a gall gael effaith ddifrifol ar gyfleoedd yn ddiweddarach mewn bywyd. Bydd plant sy’n absennol o’r ysgol yn ystod y tymor yn colli allan ar gyfleoedd dysgu pwysig - ni ellir ailedrych yn ddiweddarach ar brofiadau addysgol a gollwyd. 

Ni fydd athro eich plentyn yn gallu edrych yn ôl dros bopeth y mae eich plentyn wedi ei golli. O ganlyniad i’r angen am fewnbwn athro/disgybl i lawer o’n profiadau dysgu, nid yw hi bob amser yn bosibl rhoi gwaith i chi ei gwblhau yn ystod yr absenoldeb.

Fel rhiant/gofalwr, gallwch ddangos eich ymrwymiad i addysg eich plentyn trwy osgoi absenoldebau yn ystod y tymor, ble bynnag y bo modd. Mae’n bwysig nad yw absenoldebau yn ystod y tymor yn cyfrannu at ddatblygu arferion gwael o ran presenoldeb y mae’n anodd eu dadwneud yn ddiweddarach. 

Ar gyfer gwyliau: 

Sylwer nad oes yna hawl fel mater o drefn i dynnu disgyblion o’r ysgol ar gyfer gwyliau a chais am ganiatâd yn unig yw’r ffurflen hon, os yw’n gais at y diben hwnnw. 

Mae gan benaethiaid rywfaint o ddisgresiwn i gytuno â’ch cais, ac yn unol ag arweiniad cenedlaethol, bydd absenoldeb eich plentyn/plant yn cael ei farnu ar sail teilyngdod ac efallai na fydd yr absenoldeb yn cael ei awdurdodi. 

Gweler ein polisi ysgolion ar bresenoldeb. Byddwch yn cael gwybod am y penderfyniad yn fuan. 

Sylwer: mae arweiniad LlC yn datgan na all ysgolion awdurdodi gwyliau yn ôl-ddilynol. 

Os bydd eich plentyn yn cronni lefel o absenoldeb anawdurdodedig sy’n golygu bod ei gyfradd presenoldeb islaw 90% yn ystod y flwyddyn, gallai’r Awdurdod Lleol (yn dibynnu ar yr amgylchiadau) gyhoeddi Hysbysiad Cosb neu ddechrau erlyniad ffurfiol am fethu sicrhau presenoldeb rheolaidd yn yr ysgol. Gellir gofyn am fanylion llawn am y cynllun Hysbysiad Cosb gan Gyngor Sir Penfro.