Pwyllgorau Caer Elen
Mae gan y disgyblion yn Ysgol Caer Elen y cyfle i fod yn rhan o bwyllgorau amrywiol. Rydym yn cynnal proses ddemocrataidd o ethol aelodau ar gyfer ein chwe phwyllgor ysgol yn flynyddol a dyma ein Pwyllgorau a'r aelodau presennol.
Mae pob Pwyllgor yn cwrdd pob hanner tymor er mwyn gweithredu ar eu blaenoriaethau. Gwerthfawrogir cyfraniadau’r holl ddisgyblion a dymunir diolch i’r staff hynny sy’n gyfrifol am drefnu cyfarfodydd bob pwyllgor.
Mae’r Senedd yn gyfrifol am y pwyllgorau isod:
Pwyllgor Cymreictod
Llongyfarchiadau i’r canlynol ar gael eu hethol i'r Pwyllgor Cymreictod.
Caitlyn, Ava, Sidney, Arthur, Alice, Liam, Beaux, Sasha, Efan, Una, Myfi, Elen, Catrin, Paige.
Pwyllgor Amrywiaeth
Llongyfarchiadau i’r canlynol ar gael eu hethol i'r Pwyllgor Amrywiaeth:
Ifan, Ruby, Ela, Elsi, Ellie, Beau, Jay.
Pwyllgor Eco a’r Amgylchedd
Llongyfarchiadau i’r canlynol ar gael eu hethol i'r Pwyllgor Eco a’r Amgylchedd:
Gray, Aura, Tillie, Erin, Brooke, Celyn, Belle, Tomos, Paige, Thea, Ffion, Cadi, Gwenllian, Grace, Olive, Eva.
Pwyllgor Elusennol
Llongyfarchiadau i’r canlynol ar gael eu hethol i'r Pwyllgor Elusennol:
Xanthe, Charlie, Rebecca, William, Lola, Betsy, Myfanwy, Bryar, Harry, Haydn, Millie, Charlotte, Tegan, Elin, Mya, Hollie, Amelia, Owain, Eva.
Pwyllgor Iechyd a Lles
Llongyfarchiadau i’r canlynol ar gael eu hethol i'r Pwyllgor Iechyd a Lles.
Rhys, Zac, Erin, Logan, Maddox, Catrin, Oscar, Theo, Sophia, Iestyn, Phoebe, Mollie, Alanna, Rosabell, Deryn, Kira.
Blaenoriaethau Llais y Disgybl
1) Cymreictod
Fel Senedd, credai'r aelodau, er bod Ysgol Caer Elen yn ysgol cyfrwng Cymraeg na ddylem ei chymryd yn ganiataol, a dylai gwella a hyrwyddo Cymreictod tu fewn i’r ysgol fod yn flaenoriaeth bob amser.
2) Bod yr ysgol yn cael ei gydnabod fel Ysgol Eco.
Fel Senedd, roeddem yn teimlo ei bod yn bwysig bod disgyblion yn ymgysylltu â'u hamgylchedd, ac yn rhoi'r cyfle iddynt ei warchod. Trwy roi hyn i lawr fel blaenoriaeth ysgol bydd yn sicrhau bod disgyblion Ysgol Caer Elen yn gallu dylanwadu ar bolisïau rheolaeth amgylcheddol ein hysgol.