Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb
Mae gan addysg cydberthynas a rhywioldeb rôl gadarnhaol a grymusol i'w chwarae yn addysg dysgwyr ac mae'n hanfodol er mwyn cefnogi dysgwyr i gyflawni'r pedwar diben fel rhan o ddull gweithredu ysgol gyfan. Mae helpu dysgwyr i ffurfio a chynnal ystod o gydberthnasau, sydd i gyd yn seiliedig ar ymddiriedaeth a pharch ar y ddwy ochr, yn greiddiol i addysg cydberthynas a rhywioldeb. Mae'r cydberthnasau yma yn hollbwysig er mwyn datblygu lles emosiynol, gwydnwch ac empathi.
Mae addysg cydberthynas a rhywioldeb yn y cwricwlwm yn canolbwyntio ar dri llinyn cyffredinol:
Cydberthnasau a hunaniaeth: helpu dysgwyr i feithrin y sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw er mwyn datblygu cydberthnasau iach, diogel a boddhaus gyda phobl eraill, a'u helpu i wneud synnwyr o'u meddyliau a'u teimladau.
Iechyd rhywiol a lles: helpu dysgwyr i droi at ffynonellau ffeithiol ynghylch eu hiechyd a'u lles rhywiol ac atgenhedlol gan eu galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus gydol eu bywydau.
Grymuso, diogelwch a pharch: helpu i amddiffyn dysgwyr rhag pob math o wahaniaethu, trais, camdriniaeth ac esgeulustod a'u galluogi i adnabod cydberthnasau a sefyllfaoedd anniogel neu niweidiol, gan eu helpu i wybod pryd, sut a ble i ofyn am gymorth a chyngor.
Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb sy'n briodol o ran datblygiad y plentyn
Mae'n ofynnol bod yr ACRh a ddarperir yn briodol o ran datblygiad y dysgwyr. Felly yn unol ag amcanion Polisi Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yr ysgol byddwn yn ystyried ystod o ffactorau megis oedran, gwybodaeth ac aeddfedrwydd y dysgwyr ynghŷd ag unrhyw anghenion dysgu ychwanegol er mwyn sicrhau bod ein darpariaeth yn ddatblygiadol briodol ar gyfer pob dysgwr.
Monitro ACRh
Er bod ACRh yn gyfrifoldeb ysgol gyfan, bydd ACRh yn cael ei fonitro, ei adolygu a’i werthuso gan y rhai sydd â chyfrifoldeb am ACRh yn Ysgol Caer Elen yn unol â pholisi cwricwlwm yr ysgol. Mae hyn yn cynnwys:
(a) Cynrychiolydd y Corff Llywodraethol sydd â chyfrifoldeb am ACRh
(b) Y Pennaeth a'r Uwch Dîm Rheoli
(c) Disgyblion
Ein Polisi Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb:
polisi addysg cydberthynas a rhywioldeb acrh 2025 26 gwefan docx.pdf
