Diogelu
Yn Ysgol Caer Elen, anelwn at ofalu am les a diogelwch bob unigolyn. Mae darparu amgylchedd diogel a chefnogol yn allweddol bwysig yma yng Nghaer Elen er mwyn datblygu’r hyder ym mhob unigolyn i wireddu ei botensial llawn.
Mae gan yr ysgol weithdrefnau cadarn ar gyfer cadw ein plant yn ddiogel. Cydweithiwn yn agos gyda rhieni ac asiantaethau allanol gan ddilyn Canllawiau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan ar gyfer diogelu. Mae gennym bolisïau penodol sydd i’w gweld ar y wefan o dan yr adran Wybodaeth, Polisïau.
Mae pob aelod o staff yr ysgol yn gyfrifol am ddiogelu ac amddiffyn ein plant. O fewn yr ysgol, mae staff penodol sy’n gyfrifol am faterion sy’n ymwneud ag amddiffyn plant. Mae’r staff hyn wedi derbyn hyfforddiant ychwanegol.
Mewn achosion cymhleth neu ddifrifol byddwn yn cysylltu gydag Adran Ddiogelu Plant yr Awdurdod Addysg am gyngor a chyfarwyddyd pellach. Ni fydd yn briodol bob amser i drafod materion gyda rhieni cyn cyfeirio’r plentyn. Y Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Heddlu sy’n gyfrifol am ymchwilio i gyhuddiadau.