Cylch Meithrin a Chlwb Ar Ôl Ysgol
Yma yn Ysgol Caer Elen, darperir gofal plant gan ddwy asiantaeth allanol ar gampws yr ysgol, sef Cylch Meithrin Caer Elen a Chrwban Bach, sef clwb ar ôl ysgol ar gyfer ein disgyblion.
Cylch Meithrin Caer Elen
Ysgol Feithrin Gymraeg yw Cylch Meithrin Caer Elen ar gyfer plant 2-5 oed, ond mae croeso i bob plentyn yn y cylch dim ots beth yw’r iaith sy’n cael ei siarad yn y cartref. Mae'r gofal ar gael i'r disgyblion sydd yn mynychu meithrin rhan-amser Ysgol Caer Elen a hefyd ar gyfer gofal plant 30 awr.
Nod y cylch yw hyrwyddo addysg a datblygiad plant o ddwy flwydd oed hyd at oed ysgol. Mae cyfle i blant gymdeithasu a dysgu trwy chwarae dan arweiniad ein staff proffesiynol, cyfeillgar a brwdfrydig.
Os hoffech drafod unrhyw agwedd o waith y cylch neu am wybodaeth ynglyn â chofrestru eich plentyn mae croeso i chi gysylltu ag Arweinydd y Cylch, Caroline Parsons ar 07528 327155 neu drwy e-bost cylchhwlffordd@yahoo.co.uk
Os hoffech wybodaeth gyffredinol am gylchoedd yr ardal neu waith Mudiad Meithrin mae croeso i chi gysylltu â’r Swyddog Cefnogi lleol: Jill Lewis: jill.lewis@meithrin.co.uk
Gweler gwybodaeth ychwanegol drwy glicio ar y lluniau isod:
Clwb Ar Ôl Ysgol
Mae Crwban Bach yn ganolfan cofrestredig ar gyfer darparu gofal plant yn yr ysgol i ddisgyblion 3-12 oed. Am fwy o wybodaeth ynglyn â chofrestru eich plentyn, mae croeso i chi gysylltu ag Arweinydd y Clwb, sef Liz Davies ar 07891 443824 neu drwy e-bost crwbanbach@gmail.com
I weld dudalen Facebook Crwban Bach, cliciwch ar y llun isod: