Ysgol Caer Elen

Daw derwen o fesen fach

Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr

Caiff y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion ei arwain gan Brifysgol Caerdydd, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Cancer Research UK. Bob dwy flynedd, gwahoddir ysgolion y Rhwydwaith i gymryd rhan mewn Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr. Caiff y wybodaeth a gesglir yn yr arolwg ei defnyddio i lunio Adroddiad Iechyd a Lles Myfyrwyr ar gyfer pob ysgol, sy’n cefnogi eu gwaith i wella iechyd a lles eu myfyrwyr.

Mae Ysgol Caer Elen yn cymryd rhan yn yr Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y tymor hwn (tymor yr Hydref 2021). Bydd disgyblion Blwyddyn 7-10 yn cymryd rhan yn yr arolwg, heblaw eich bod yn tynnu eich plentyn yn ôl o’r arolwg. Gweler y llythyr i rieni a aeth allan ar Fedi 27ain sy'n esbonio mwy.