Ysgol Caer Elen

Daw derwen o fesen fach

Hysbysiad Preifatrwydd - Presenoldeb Medi 2020

HYSBYSIAD PREIFATRWYDD CYNGOR SIR PENFRO

Casglu ystadegau presenoldeb a nodweddion personol oddi wrth ysgolion o fis Medi 2020 ymlaen

Rydym yn casglu ystod eang o ddata amdanoch yn flynyddol, ac eglurir hyn yn fanylach yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn.

Oherwydd y pandemig Covid-19 ac ysgolion yn gorfod addasu i ffyrdd newydd o weithio, mae angen i ni allu casglu data presenoldeb yn amlach nag unwaith y flwyddyn. Bydd casglu'r wybodaeth ddiweddaraf yn ein cefnogi ac yn darparu'r dystiolaeth sydd ei hangen arnom i ddeall effaith pandemig Covid-19 ar bresenoldeb a sut y gallwn gefnogi ysgolion.

Pa mor aml ydyn ni'n casglu'r data hwn?

Byddwn yn cadw amlder y casglu dan adolygiad rheolaidd. I ddechrau, bydd y data'n cael ei gasglu bob wythnos ond efallai y bydd angen i ni gasglu'r data yn fwy aml.

Pa ddisgyblion ydym ni’n casglu data amdanynt?

Rydym yn casglu data am bob disgybl mewn ysgolion a gynhelir o fis Medi 2020 ymlaen.

Pa wybodaeth ydym ni’n ei chasglu?

Rydym yn casglu'r wybodaeth ganlynol amdanoch bob wythnos:

  • Rhif unigryw’r disgybl (UPN)
  • Enw cyntaf
  • Enw(au) canol
  • Cyfenw
  • Rhywedd
  • Dyddiad geni
  • Cod post cartref
  • Cefndir ethnig
  • Cymhwystra ar gyfer prydau ysgol am ddim
  • Anghenion dysgu ychwanegol
  • Saesneg fel iaith ychwanegol
  • Cod presenoldeb ar gyfer pob sesiwn hanner diwrnod yr wythnos honno 

Pam ydym ni’n casglu’r wybodaeth hon?

Mae angen yr wybodaeth hon fel rhan allweddol o’n hymateb a chynllunio yn ystod y pandemig Covid-19 parhaol. Bydd y data’n cael ei gasglu’n rheolaidd i sicrhau bod y data diweddaraf ar gael i lywio ein hymateb. Byddwn yn defnyddio’r data at ddibenion ystadegol a gwaith ymchwil yn unig ac ni fydd unrhyw benderfyniadau’n cael eu gwneud yn eich cylch yn defnyddio’r data hyn. 

Sut y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon?

Byddwn yn defnyddio'r data yn yr un ffyrdd ag yr ydym wedi'u rhestru yn ein prif hysbysiad preifatrwydd

A fyddwn ni’n rhannu’r data?

Mae’n bosib byddwn yn rhannu’r data gyda’r sefydliadau yr ydym wedi'u rhestru yn ein prif hysbysiad preifatrwydd 

Pa mor hir y byddwn yn cadw’r wybodaeth amdanoch?

Byddwn yn cadw’r data sy’n ei gwneud yn bosibl eich adnabod chi hyd nes y byddwch yn 25 oed.

Beth yw'r sylfaen gyfreithiol ar gyfer casglu'r data hwn?

Mae adran 538 o Ddeddf Addysg 1996 yn darparu'r sylfaen gyfreithiol ar gyfer casglu'r data hwn. Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i ysgolion wneud unrhyw adroddiadau a ffurflenni, a rhoi unrhyw wybodaeth, i Weinidogion Cymru y bydd eu hangen arnynt ar gyfer eu swyddogaethau mewn perthynas ag addysg.

Eich hawliau o dan y GDPR

Esbonnir eich hawliau yn llawn yn ein prif hysbysiad preifatrwydd.