Ysgol Caer Elen

Daw derwen o fesen fach

Rheolau'r Ysgol 

Disgwylir i ddisgyblion ymddwyn yn gwrtais ac yn rhesymol ar bob adeg. Er mwyn cynnal Cymreictod yr ysgol, disgwylir i bob disgybl siarad Cymraeg â’i gilydd yn ddyddiol.

Dyma’r rheolau y gofynnir i bob disgybl yn yr ysgol hon eu cadw: 

1) Rhaid gwisgo gwisg swyddogol bob amser i’r ysgol.

2) Ni adewir i unrhyw ddisgybl adael gwersi, neu adael terfynau’r ysgol heb ganiatâd y Pennaeth neu aelod o’r Tîm Rheoli. Rhaid arwyddo’r llyfr cyn gadael yr ysgol ac ar ôl dychwelyd yn y swyddfa.

3) Disgwylir i bob disgybl fod yn bresennol yn yr ysgol yn gyson a rhaid i ddisgyblion ddod â llythyr i egluro unrhyw absenoldeb.

4) Ni chaniateir esgidiau chwaraeon i’w gwisgo yn feunyddiol. Ni chaniateir esgidiau canfas nag esgidiau ‘bale’.

5) Ni chaniateir gemwaith yr wyneb neu gorff, lliw gwallt annaturiol a phatrymau yn y gwallt. Gweler y poster isod o ran rheolau clustdlysau. 

6) Ni chaniateir colur eithafol. Mae hyn yn cynnwys amrannau ffug, pensel llygad, colur llygaid, minlliw, farnais ewinedd ac ewinedd ffug, 

7) Ni ddylai unrhyw ddisgybl ddod ag unrhyw offer electronig.

8) Dylai pob disgybl roi ei enw mewn inc annileadwy ar bob eiddo personol sydd ganddo. 

9) Gan fod y gymuned leol yn defnyddio’r ysgol yn yr hwyr, dylid mynd â dillad ac eiddo personol adref am 3.20 o’r gloch. Ni fydd yr ysgol yn gyfrifol am unrhyw beth fydd yn cael ei adael ar ôl dros nos.

10) Ni oddefir unrhyw ymddygiad rhagaeddfed, yfed diod feddwol, ysmygu, nac ymwneud â chyffuriau. Caiff troseddwyr eu gwahardd/diarddel. 

11) Rhaid i ddisgyblion fynd â’r bagiau i bob gwers a’u gosod yn y mannau priodol amser egwyliau a chinio.

12) Dylai disgyblion gyrraedd yr ysgol yn brydlon ond rhaid i bawb sydd yn hwyr gofrestru yn y Swyddfa yn union ar ôl cyrraedd.

13) Ni oddefir achosion o fandaliaeth. Disgwylir i’r plant dalu am eiddo’r ysgol neu eiddo cyd-ddisgybl a falwyd yn fwriadol.

14) Ni oddefir ymladd a bydd disgyblion sy’n ymosod ar ddisgybl arall yn cael eu gwahardd. 

15) Ni oddefir unrhyw achos o fwlian.

16) Rhaid i bawb fod yn brydlon ym mhob cyfnod cofrestru ac ym mhob gwers. 

17) Ni chaniateir gwm cnoi yn yr ysgol.

18) Rhaid i ddisgyblion sy’n dymuno derbyn sylw meddygol yn ystod gwers, gael caniatad gan y Pennaeth neu aelod o’r Tîm Rheoli. Ni ddylai disgyblion fod yn absennol o unrhyw wers heb ganiatâd.

19) Rhaid defnyddio bag ysgol o faint rhesymol i gario llyfrau ysgol a dylid cael bag ar wahân i gario dillad chwaraeon.

20) Rhaid bwyta pob bwyd yn y ffreutur. Ni ddylai disgyblion fynd ag unrhyw fwyd i unrhyw ran arall o’r ysgol.

21) Ni ddylid gollwng sbwriel mewn un man.

22) Ni chaniateir ffilmio na thynnu lluniau ar fysus ysgol, campws yr ysgol na theithiau ysgol.

23) Mae’r ysgol yn dal yr hawl i eithrio disgyblion sydd wedi camymddwyn o fynd ar dripiau ysgol.

 

RHEOLAU CLUSTDLYSAU